Helo! A chroeso i Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae pawb yn y Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth yn awyddus i'ch cefnogi wrth i chi ddechrau eich taith ddysgu gyda ni.
Bydd y cyflwyniad hwn yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddefnyddio’r systemau TG a llyfrgell hanfodol a bydd yn eich cyfeirio at y cymorth a'r gefnogaeth y bydd eu hangen arnoch drwy gydol eich astudiaethau.
Sgroliwch i lawr i gychwyn arni.
Ble rydych chi'n dechrau? Fan hyn, gwefan y Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth, a alwn yn Astudio.
Gallwch ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch yma – ChwilioMet, cymorth a hyfforddiant TG, sgiliau a chanllaw academaidd a llawer mwy.
Gallwch hefyd gyrraedd y safle Astudio drwy Borth y Myfyrwyr, sy'n cynnal llwythi o ddolenni, newyddion a chyhoeddiadau defnyddiol. Bydd fersiwn newydd o'r safle yn cael ei lansio ar 28 Medi.
Daliwch ati i sgrolio ↓↓↓
Mae yna Ganolfan Ddysgu ar bob campws sy'n cyfuno gwasanaethau ac adnoddau Llyfrgell, TG a Sgiliau Academaidd mewn un lleoliad.
Cewch gymorth ac arweiniad proffesiynol, gofodau astudio â chyfarpar da a mynediad at ystod eang o adnoddau dysgu a chyfleusterau TG.
Mae gofodau astudio y gellir eu harchebu, yn ogystal â gofodau grŵp, sgwrsio tawel a thawelwch llwyr i weithio ynddynt, ac mae gan yr ystafelloedd TG gyfrifiaduron Windows ac Apple iMACs ar gael, yn ogystal â lle i chi ddod â'ch gliniadur eich hun.
Sicrhewch eich bod yn gwybod sut i gael mynediad i’r Canolfannau Dysgu a'u defnyddio yn y flwyddyn academaidd hon.
Desg Cymorth TG - ithelpdesk@cardiffmet.ac.uk / 029 2041 7000
Hyfforddiant TG - ittraining@cardiffmet.ac.uk
Gwasanaethau Llyfrgell - library@cardiffmet.ac.uk
Sgiliau Academaidd - academicskills@cardiffmet.ac.uk
Rhennir gweddill yr ymsefydlu hwn yn ddwy adran. Dewiswch pa un yr hoffech ei gwblhau yn gyntaf.
Dysgwch am y feddalwedd a'r gwasanaethau hanfodol y byddwch yn eu defnyddio bob dydd.
Dysgwch sut i ddod o hyd i'r adnoddau academaidd sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau a'u defnyddio.
æ