Croeso i'r adran llyfrgell o’ch Cyflwyniad i’r Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth.
Yma byddwch yn dysgu sut y gallwch gael gafael ar adnoddau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu.
Sgroliwch i lawr i gychwyn arni.
Gyda ChwilioMet gallwch ddod o hyd i adnoddau academaidd yn hawdd – llyfrau, cyfnodolion, delweddau, fideos, adroddiadau, popeth!
Mae ChwilioMet ar gael ar unrhyw ddyfais a thrwy Ap Met Caerdydd.
Gwyliwch y fideo hwn a byddwch yn arbenigwr cyn pen dim.
Sgroliwch i lawr ar gyfer rhai Hanfodion ChwilioMet ↓↓↓
Cofiwch – Llofnodwch i mewn!
Yna, teipiwch yr hyn rydych am ddod o hyd iddo yn y blwch chwilio i ddod o hyd i filoedd o ganlyniadau academaidd o ansawdd uchel – a pob un yn ffynhonnell ddibynadwy.
Gallwch hyd yn oed chwilio am lyfrau electronig ac erthyglau cyfnodolion electronig yn benodol ar ChwilioMet: dewiswch “Online Resources” yn y blwch chwilio a bydd hyn yn cyfyngu eich canlyniadau i adnoddau ar-lein yn unig.
Chwilio am lyfrau corfforol? Rhowch gynnig ar ein gwasanaeth clicio a chasglu. Fel arall, ewch i’r llyfrgell i bori drwy’r silffoedd!
Eisiau gwirio'r hyn sy wedi’u chadw ar eich cyfer, pa lyfrau rydych chi wedi'u benthyg a phryd maen nhw'n ddyledus yn ôl?
Gweld eich cyfrif llyfrgell drwy fewngofnodi i ChwilioMet, clicio eich enw a dewis Fy Nghyfrif Llyfrgell.
Daliwch ati i sgrolio ↓↓↓
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’ch tiwtoriaid i baratoi’r rhestrau darllen ar gyfer eich cyrsiau. Bydd hyn yn golygu y bydd popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer unrhyw fodiwl i gyd gyda'i gilydd mewn un lle i chi.
I ddod o hyd i'ch rhestrau, llofnodwch i mewn i ChwilioMet ac ewch i Rhestrau Darllen.
Mae gennym dîm o Lyfrgellwyr Academaidd, a all eich helpu i fireinio eich sgiliau wrth chwilio a gwerthuso eich canlyniadau er mwyn sicrhau eich bod yn defnyddio'r wybodaeth academaidd orau ar gyfer eich pwnc a'ch aseiniadau.
Cysylltwch â nhw drwy e-bost/gwe-sgwrs – a gallwch drefnu apwyntiad 1-1 rhithiol trwy Microsoft Teams.
Mae ein tîm Sgiliau Academaidd ymroddedig yma i'ch helpu i adeiladu a gwella eich sgiliau er mwyn sicrhau llwyddiant academaidd.
Maent wedi llunio canllawiau un dudalen ar bynciau fel ysgrifennu academaidd, ysgrifennu myfyriol a chyfeirnodi. Mae’r rhain i gyd ar gael yma..
Gallwch hefyd cwblhau’r Modiwl Sgiliau Astudio ar Moodle. Mae'r modiwl hwn at ddefnydd pawb - does dim angen cofrestru - a gallwch weithio drwy'r modiwlau yn eich amser eich hun i feithrin eich sgiliau.
Cadwch lygad ar MetHub ar gyfer gweithdai Arfer Academaidd. Bydd y rhain yn sesiynau byw ar Teams, dan arweiniad Llyfrgellwyr Academaidd ac Arbenigwyr Sgiliau Academaidd, sy'n cwmpasu'r holl sgiliau y bydd eu hangen arnoch i chwilio am wybodaeth academaidd a'i defnyddio yn eich aseiniadau.
↓↓↓
Ydych chi wedi Gwybodaeth Sefydlu TG eto?. Sicrhewch eich bod yn gwneud hynny i ddarganfod mwy am y feddalwedd a'r gwasanaethau hanfodol y byddwch chi'n eu defnyddio bob dydd.