IT essentials

Gwybodaeth Sefydlu TG


Croeso i'r rhan TG o ymarfer sefydlu y Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth.

Yma cewch wybodaeth am y feddalwedd a'r gwasanaethau hanfodol fyddwch chi'n ddefnyddio'n ddyddiol.

fullPage

Sgroliwch i lawr i gychwyn arni.

IT Account

Eich Cyfrif TG


Mae eich cyfrif TG Met Caerdydd yn caniatáu i chi ddarllen eich e-bost, cysylltu gyda'r wi-fi, cael mynediad i Moodle, defnyddio rhaglenni 'Microsoft Teams', cysylltu eich 'PlayStation'… bron a bod popeth fyddwch chi ei angen.

Pan wnaethoch chi ymrestru, fe gawsoch e-bost gyda'ch 'enw defnyddiwr' a 'chyfrinair' ar gyfer eich cyfrif TG.

username

Enw Defnyddiwr


Dyma'ch enw defnyddiwr - ST[rhif myfyriwr]. Mae rhai systemau (e.e. e-bost, Office 365) angen @outlook.cardiffmet.ac.uk ar ei gynffon, neu @cardiffmet.ac.uk (e.e. ar gyfer wifi).

Cofiwch bod eich cyfrif myfyriwr yn benodol ar eich cyfer chi. PEIDIWCH â rhoi eich manylion i neb arall.

password

Cyfrinair

Eich cyfrinair ydy'r allwedd i gadw eich cyfrif yn ddiogel.

Rydych chi'n gyfrifol am bopeth sy'n digwydd drwy eich cyfrif, felly peidiwch rhoi eich cyfrinair i neb o gwbl – gan gynnwys eich ffrindiau, darlithwyr neu hyd yn oed staff yr adran TG.

Mae'n syniad da i chi newid y cyfrinair cyntaf gawsoch chi wrth ymrestru. Gallwch wneud hynny drwy ddilyn y camau canlynol

password

Canllawiau Dewis Cyfrinair

Beth sy'n gwneud cyfrinair da? Dilynwch y canllawiau hyn a byddwch yn creu cyfrinair gwych.

TickGofalwch...

  • Gael cyfrinair cymhleth – rhifau a llythrennau, sydd yn gyfuniad yn o leiaf 10 o rifau a llythrennau
  • Defnyddiwch ymadrodd/dywediad yn hytrach nag un gair
  • Dewiswch un anodd ei ddyfalu ond hawdd ei gofio
  • Dewiswch gyfrinair sy'n unigryw

CrossPeidiwch â...

  • Dewis cyfrinair rydych chi wedi'i ddefnyddio o'r blaen
  • Defnyddio eich enw, rhif myfyriwr neu unrhyw wybodaeth bersonol arall (e.e. eich ffugenw)
  • Defnyddio dim un o'r rhain: @ £ $ % ?

Mae'n bwysig cael cyfrinair unigryw a diogel; bydd hyn yn rhwystro eraill rhag cael mynediad at eich gwybodaeth neu anfon negeseuon yn eich enw chi.

IT security

Diogelwch TG


Er mwyn cadw eich dyfeisiadau a'ch dogfennau'n ddiogel, cofiwch wneud y canlynol:

  • Amddiffynnwch eich dyfeisiau (ffôn, cyfrifiaduron, tabledi) gyda chyfrinair, côd, neu glo biometreg.
  • Gofalwch bod eich meddalwedd yn gyfredol - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gosod y diweddariadau diweddaraf.
  • Defnyddiwch feddalwedd wrth-feirws da ar eich cyfrifiaduron - e.e. Mae Windows Defender yn rhad ac am ddim ac yn aml wedi'i osod yn barod.
  • Gwe-rwydo (phishing) – dydy dolenni mewn e-byst ddim bob amser yr hyn maen nhw'n ymddangos, peidiwch â chlicio ar ddolenni amheus. Riportiwch unrhyw e-byst amheus i'r Ddesg Gymorth TG. Paranoia ydy'r arfer gorau o ran ymdrin â dolenni mewn e-bost.
  • Defnyddiwch OneDrive i storio'ch dogfennau - mae'n ddiogel ac mae modd adfer y dogfennau.
 

Mae rhagor o wybodaeth am gamau diogelu ar gael yn y Canllawiau Diogelwch TG ar astudio

IT essentials

Systemau TG Hanfodol


Felly, pa feddalwedd a gwasanaethau fyddwch chi wir yn eu defnyddio ar gyfer eich gwaith o ddydd i ddydd yn y brifysgol?

Office365

Office 365


Mae yna danysgrifiad 'Office 365' ar gael ar gyfer pob myfyriwr/wraig ym Met Caerdydd.

Gallwch gael mynediad at Office 365 drwy'r porth portal.office.com, gan fewngofnodi gyda'ch cyfrif Office 365:

 ST[student number]@outlook.cardiffmet.ac.uk 

office apps

Office Suite


Mae eich tanysgrifiad yn caniatáu i chi osod yr 'Office suite' (sef Word, Excel, PowerPoint ac Outlook) ar nifer o ddyfeisiadau (cyfrifiadur PC/Mac, tabledi a ffonau).

Cewch ragor o wybodaeth am Microsoft Office yn yr adran 'Astudio/Study'

email

E-bost


Mae'n bwysig eich bod yn darllen eich negeseuon e-bost Met Caerdydd yn ddyddiol – neu gallech golli dod i wybod am rywbeth gwir bwysig!

Defnyddiwch y cyfeiriad hwn, NID eich cyfeiriad e-bost personol, ar gyfer unrhyw beth a phopeth i wneud â Met Caerdydd. 

email

Eich Cyfeiriad e-bost


Dyma ydy fformat eich cyfeiriad e-bost:

ST[rhif myfyriwr]@outlook.cardiffmet.ac.uk

  neu ffurf mwy cyfeillgar tebyg i hyn:

B.Jones@outlook.cardiffmet.ac.uk

Darllenwch eich gwybodaeth ymrestru i ganfod eich cyfeiriad e-bost cyfeillgar.

email

Mynediad i'ch e-bost


Gallwch gael mynediad i'ch e-bost drwy'r 'app' Outlook sydd ar portal.office.com, gan lofnodi gyda'ch cyfrif Office 365:

 ST[rhif myfyriwr]@outlook.cardiffmet.ac.uk

Gallwch hefyd ffurfweddu (configure) eich ffôn neu fersiwn llawn pen-desg o Outlook gyda'ch e-bost.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau am e-bost sydd ar gael ar 'Astudio/Study'.

teams and onedrive

Gwasanaethau Office 365


Mae yna fwy i gasgliad 'Office 365' na bod yn gasgliad o raglenni – mae yno hefyd 'apps' allweddol y byddwch chi'n eu defnyddio'n ddyddiol, sef Microsoft Teams ac OneDrive.

Teams

Microsoft Teams


Microsoft Teams ydy'r hyn fyddwch chi'n ei ddefnyddio i gydweithio â rhai eraill ar eich cwrs ac i gysylltu o hirbell gyda'ch tiwtor.

Byddwch yn cael darlithoedd, seminarau, cyfarfodydd un-wrth-un gyda Thiwtoriaid Personol a llawer mwy drwy raglen 'Teams'.

Mae 'Teams' yn 'app' sydd o fewn Office 365 a gallwch gael mynediad iddo drwy borth Office 365 portal

Gallwch ganfod adnoddau 'Teams' dan y pennawd 'Cyfathrebu Digidol/Digital Communication' ar 'Digital Skills Moodle'

Dylai pob myfyriwr/wraig fynychu sesiynau hyfforddi Digital Essentials

OneDrive

OneDrive


Y cyfan fyddwch chi ei angen i storio eich dogfennau Met Caerdydd ydy 'OneDrive'.

Gallwch gael gafael ar eich dogfennau yn unrhyw leoliad, ar unrhyw ddyfais a gallwch rannu eich dogfennau'n ddiogel gydag unrhyw un drwy 'OneDrive'.

Cewch fynediad at 'OneDrive' drwy Office 365 portal.  

Moodle

Moodle


Moodle ydy'r amgylchedd dysgu ar-lein lle byddwch chi'n cael mynediad i'ch holl ddeunyddiau ar gyfer eich cwrs.

Caiff Moodle ei ddefnyddio ar gyfer y canlynol:

  • Rhannu cynnwys y cwrs a manylion aseiniad gyda chi
  • Cyflwyno eich aseiniadau ar-lein
  • Cael gweld yr adborth i'ch aseiniadau
  • Gweld eich graddau (yn amodol ar gael eu dilysu gan y bwrdd arholi)
AppsAnywhere

App Store (AppsAnywhere)


Mae gennym ni ein storfa 'app' ein hunain ar eich cyfer!

Mae'n fan diogel a saff i chi lawrlwytho meddalwedd sydd ar gael am ddim gan Met Caerdydd!

Mae yno hefyd nifer fawr o 'apps' defnyddiol iawn, felly cymrwch olwg ar beth sydd ar gael.

Ewch ar AppsAnywhere.cardiffmet.ac.uk, a mewngofnodi gyda'r ID fel myfyriwr i gael chwilota a gosod eich dewis o 'apps'.

mycardiffmet app

MyCardiffMet App


MyCardiffMet App yn dod â'r cyfan o fywyd Met Caerdydd ynghyd mewn dull hawdd i'w ddefnyddio ac mae'n cynnwys: 

  • Amserlenni
  • E-bost
  • Chwilotwr 'MetSearch'
  • Digwyddiadau
  • Manylion Bysiau
  • Tiwtor Personol
  • A llawer mwy!

Gellir ei lawrlwytho drwy Android ac Apple storfeydd app.

Y cyfan fydd eisiau arnoch chi fydd eich manylion Met Caerdydd i fewngofnodi, unwaith byddwch chi wedi gosod yr app.

wifi

Wi-Fi


Eduroam ydy'r gwasanaeth mynediad diogel, crwydrol, byd-eang, ddatblygwyd ar gyfer y gymuned ymchwil ac addysg yn rhyngwladol.

Mae Eduroam ar gael ar bob campws a neuadd breswyl. Unwaith byddwch chi wedi cysylltu, byddwch yn parhau mewn cysylltiad wrth deithio o gwmpas y campysau. Gallwch gysylltu gyda chymaint o ddyfeisiadau ag y dymunwch chi.

Cliciwch yma i ganfod sut mae cysylltu!

printer

Argraffu a Sganio


Mae gan y ddwy Ganolfan Ddysgu, yn ogystal â rhai adeiladau eraill o gwmpas y campws, wasanaethau argraffu a sganio.

Bydd Print Studio yn darparu'r holl wybodaeth fyddwch chi ei angen am y mannau lle gallwch argraffu ynghyd â nifer o wasanaethau eraill maen nhw'n ei gynnig.

laptops

Benthyg Gliniaduron


Wyddech chi bod modd i chi gael benthyg gliniadur a hynny AM DDIM?

Bydd pob Gliniadur gyda rhaglenni Windows 10 arno gyda'r cyfan o feddalwedd arall fyddwch chi ei angen, ynghyd â chebl ail-wefru'r batri a chês i'r gliniadur.

Gallwch ei fenthyca am 2 wythnos ac adnewyddu'r drefn, os byddwch am ei gael am fwy na hynny!   

Am ragor o wybodaeth am fenthyca gliniadur, ewch at yr adran am y gliniaduron ar Flash Guides.

Cyflwyniad i’r Llyfrgell


Have you completed the Library Induction yet? Ensure you do so to find and use the academic resources you need for your studies.